Luke Reeves
Rheolwr Gyfarwyddwr
Mae Luke wedi arwain Mentrau Castell ers 2015 pan gofrestrodd y cwmni gyntaf gydag Arolygiaeth Gofal Cymru fel darparwr gofal cartref. Mae’n angerddol am sicrhau bod pobl yn derbyn gwasanaethau gofal a chymorth y mae ganddynt reolaeth lawn arnynt, sy’n darparu’r hyn sy’n bwysig iddynt ac yn gwneud gwahaniaeth i’w bywydau. Ar ôl gweithio ym maes gofal cymdeithasol drwy gydol ei yrfa, Luke yw’r Unigolyn Cyfrifol AGC i Castell.
Abbie Wilbraham
Cyfrifydd Rheolaeth
Ymunodd Abbie â’r tîm yn 2023 ac mae ganddi fwy na phedair blynedd ar ddeg o brofiad mewn Cyfrifeg a Chyllid. Fel Cyfrifydd Rheolaeth, mae Abbie yn sicrhau bod gwybodaeth ariannol allweddol, cyfrifon rheoli a llifoedd arian yn cael eu cynhyrchu yn unol â pholisi ac amserlenni’r cwmni. Mae Abbie hefyd yn Aelod o Gymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (ATT).
Lisa Hukin
Swyddog AD
Mae gan Lisa wybodaeth fanwl o’r cwmni ar ôl ymuno â Mentrau Castell yn 2017. Mae Lisa yn goruchwylio recriwtio staff i bob maes o fewn y sefydliad, gan sicrhau bod digon o staff i’r gwasanaethau i gydymffurfio, a mynd thu hwnt, safonau a nodwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru. Lisa yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau Adnoddau Dynol ac yn darparu arweiniad i staff ar draws yr holl bynciau AD gan gynnwys rheoli absenoldeb a chyflogres. Mae Lisa yn hyfforddi, yn cynghori ac yn datblygu staff yn rhagweithiol ynghylch pynciau AD.
Faye Hughes
Cyfarwyddwr Gwasanaethau
Dechreuodd Faye ar ei thaith gyda Castell yn 2016 fel gweithiwr cymorth ac ers hynny mae wedi gweithio mewn swyddi arweinydd tîm a rheolwr gwasanaeth cyn dod yn un o’n Rheolwyr Gweithrediadau. Mae Faye yn angerddol am y gofal a’r cymorth a ddarparwn yn Castell. Ei rôl yw darparu cymorth gweithredol ar draws sawl gwasanaeth yng Ngogledd Cymru, a hi hefyd yw’r rheolwr cofrestredig ar gyfer y gwasanaethau hyn. Mae Faye yn rheoli’r rheolwyr gwasanaeth a’r arweinwyr tîm, gan eu cefnogi i ddarparu gofal a chymorth o ansawdd uchel.
Alison Willington
Swyddog Hyfforddi ac Ymgysylltu
Ymunodd Alison â Castell yn 2024. Mae’n hi’n angerddol ynghylch helpu pobl i wneud cynnydd. Mae ei rôl hyfforddi yn cynnwys datblygu a darparu rhaglenni hyfforddi cynhwysfawr i sicrhau bod y staff yn gallu cyflawni eu rolau yn ddiogel, yn briodol ac yn unol â’r arferion gorau. Mae Alison yn datblygu ac yn gweithredu strategaethau ymgysylltu gweithwyr, yn cynnal arolygon i nodi meysydd i’w gwella ac yn cynhyrchu cylchlythyr staff misol.
Jen Bowes
Swyddog TGCh a Data
Ymunodd Jen a Mentrau Castell yn 2020 ac mae’n gyfrifol am redeg a gweithredu systemau TGCh a data Castell ac yn goruchwylio presenoldeb y cwmni ar-lein. Jen yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau TGCh, gan ddarparu cymorth a hyfforddiant i staff. Mae’n sichrau bod gan y cwmni ddigon o stoc o offer TGCh a gynhelir yn dda ac hefyd yn rheoli perthnasoedd a darparwyr TGCh allanol. Mae hi’n wybodus mewn dadansoddi data ac yn gweithio ar draws pob maes i ddatblygu a chynnal systemau rheoli data.
Charlotte Roberts
Rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau
Ymunodd Charlotte â Castell ym mis Medi 2024, gan ddod ag dros 14 mlynedd o brofiad rheoli yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hi’n ymrwymedig i ddarparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan sicrhau bod pob person yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt i fyw bywyd llawn ac ystyrlon. Mae gan Charlotte brofiad helaeth o weithio gyda phobl sydd ag amrywiaeth o anghenion cymorth. Mae hi’n credu’n gryf ym mhweruso eraill i wneud eu dewisiadau eu hunain ac yn eu cefnogi i gyflawni’r hyn sy’n bwysicaf iddynt. Mae Charlotte yn ymroddedig i arwain gofal o ansawdd uchel, gan sicrhau bod y safonau rhagorol o gefnogaeth yn cael eu cynnal yn gyson ac yn seiliedig ar werthoedd gwirioneddol.
Karen Williamson
Rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau
Ymunodd Karen â Castell yn 2023 i reoli gwasanaeth i bobl ifanc yn Wrecsam ac mae wedi datblygu i fod yn Reolwr Cyflenwi Gwasanaethau yn goruchwylio pob un o’r gwasanaethau pobl ifanc. Mae gan Karen dros 30 mlynedd o brofiad mewn Diogelu a 17 mlynedd o brofiad rheoli. Mae Karen wedi gweithio gyda rhai o’r bobl ifanc mwyaf dan anfantais ac wedi’u cefnogi i gyflawni canlyniadau cadarnhaol. Mae Karen yn angerddol am ddarparu amgylchedd gofalgar, cartrefol a chefnogol i’n pobl ifanc ac yn eu cynorthwyo i fyw’n annibynnol fel y gallant gael bywyd llawn a chyflawni eu dyheadau.
Katie Seaman
Rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau
Mae gan Katie Gymhwyster Lefel 5 QCF mewn Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac mae’n defnyddio ei sgiliau, ei gwybodaeth a’i meddwl strategol i ddarparu ac annog gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, wrth hyrwyddo amgylchedd gwaith cadarnhaol, diogel a phroffesiynol. Mae gan Katie hefyd dosturi ac empathi ac mae’n hyrwyddo cyfathrebu effeithiol a chymryd risgiau cadarnhaol, yn annog ac yn hyrwyddo datrys problemau ac mae ganddi’r gallu i ddatblygu perthnasoedd gwaith, sydd wedi’u hadeiladu ar ymddiriedaeth. Mae Katie yn angerddol am ddarparu gofal meithringar, mewn amgylchedd diogel a chartrefol, a galluogi ein cwsmeriaid i wneud eu dewisiadau eu hunain mewn ffordd sy’n gweithio iddyn nhw.