Swyddi Gwag Presennol

Mae'n ddrwg gennym dim swyddi gwag ar hyn o bryd

Pam gweithio i ni?

Rydym yn gwmni cyffrous lle y mae’n holl dîm yn falch o’r gwahaniaeth yr ydym yn ei wneud er mwyn helpu pobl i wireddu eu huchelgais.

Fel cyflogwr sy’n talu’r Cyflog Byw Gwirwyrol, mae ein cyfraddau tâl sylfaenol yn uwch na’r Cyflog Byw Cenedlaethol. Cynigir y cyfle i’n staff ymuno â chynllun pensiwn cyfrannol ac rydym yn cynnig gwyliau blynyddol da a buddion ychwanegol megis cynllun gofal iechyd Bupa.

Manteision Allweddol

Gwyliau blynyddol hael
  • 29 diwrnod o wyliau y flwyddyn (pro-rata gan gynnwys gwyliau banc)
  • y dewis i brynu a gwerthu hyd at 5 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn
Gweithio hyblyg

Er mwyn eich helpu i sicrhau cydbwysedd rhwng eich gwaith a rhannau eraill o’ch bywyd, rydym yn cynnig mathau eraill o wyliau gan gynnwys ar gyfer cyfrifoldebau teuluol a gofalu, er mwyn gwneud gwaith elusennol a gwirfoddol ac amser i ffwrdd ar gyfer sefyllfaoedd annisgwyl.

Pensiwn

Rydym yn cynnig pensiwn â Chyfraniadau wedi’u Diffinio gan ddarparwr blaenllaw.

Hyfforddiant a Datblygu

Pan fyddwch yn gweithio i ni, gallwn warantu:

  • gweithgarwch ymsefydlu personoledig er mwyn eich rhoi ar y trywydd iawn a rhaglen ymsefydlu gorfforaethol ryngweithiol sy’n para dau ddiwrnod
  • rhaglen bwrpasol lawn o ddatblygiad personol parhaus a hyfforddiant technegol a phroffesiynol
  • diwylliant hyfforddi cadarn
Cymorth ar gyfer eich iechyd a'ch lles

Bydd holl gyflogeion Mentrau Castell yn cael:

  • cynllun ariannol Bupa er mwyn adennill rhywfaint o gost amrywiaeth eang o driniaethau meddygol
  • budd-dal salwch galwedigaethol hael er mwyn cynorthwyo ein staff pan na fyddant yn gallu gweithio oherwydd afiechyd
  • llinell gymorth 24 awr gyfrinachol ac am ddim sy’n cynnig cyngor a gwasanaeth cwnsela ynghylch iechyd a lles
  • hyfforddiant iechyd a diogelwch cynhwysfawr sy’n benodol i’ch rôl

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Welsh

Click here