Gwasanaeth Pobl Hŷn

Mae ein Gwasanaeth Pobl Hŷn ar gyfer pobl 50 oed a hŷn ac mae’n cefnogi pobl i fyw mor annibynnol â phosibl yn y cartref o’u dewis.

Mae ar gael yng Ngheredigion a Gogledd Sir Benfro a gall unrhyw un sy’n byw yn y gymuned gael mynediad i’r gwasanaeth.

Rydym yn darparu gwasanaeth cymorth cysylltiedig â thai a rhai o’r pethau y gallwn helpu unigolion gydag yw:

  • Teimlo’n rhan o’r gymuned
  • Cadw’n ddiogel ac yn iach
  • Sicrhau bod gan yr unigolyn ddigon o arian trwy wneud cais am unrhyw fudd-daliadau y mae ganddynt hawl i’w gael
  • Cael mynediad at ofal, addasiadau i’r cartref a gwasanaethau eraill

Nid yw’r rhestr uchod yn gynhwysfawr ac felly caiff yr holl gymorth a ddarparwn ei greu mewn ffordd hyblyg, er mwyn sicrhau newid parhaus, gan sicrhau bod yr unigolyn wrth wraidd popeth ac yn rheoli’r ffordd y maent yn byw eu bywyd.

Adolygir popeth a wnawn yn gyson, sy’n golygu y gallwn weithredu’n gyflym i newid pethau yn syth yn ôl yr angen.

Rydym yn gwybod bod pobl yn newid mewn bywyd, ac mae’n rhaid i ni newid hefyd; rydym yn gweld ein hunain fel cyfaill, ac mae’n fraint cael rhannu eiliad wrth fynd drwy daith bywyd.

Cysylltwch â ni ynghylch gofal a chymorth

Ebost: info@castellventures.wales

Ffoniwch: 0300 123 2998

Gwasanaethau gofal a chymorth eraill

Gwasanaethau Cartref

Byw â Chymorth

Pobl Iau

Ble’r ydym yn darparu Gwasanaethau Pobl Hŷn

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Welsh

Click here