Rydym yn darparu gwasanaethau gofal a chymorth, arlwyo a glanhau rhagorol, arloesol ac wedi’u teilwra i rai o’r bobl mwyaf anhygoel yng Nghymru.
Rydym yn gwmni sy’n tyfu, ac yn rhan o Grŵp Tai Wales & West, ac rydym yn cynorthwyo pobl sy’n byw yn eiddo Tai Wales & West a’r cymunedau y maent ynddynt. Mae hyn yn cynnwys tai gofal ychwanegol, byw â chymorth a gwasanaethau i bobl iau.
Mae’n tîm cyfan yn falch o’r gwahaniaeth a wnawn er mwyn helpu pobl i wireddu eu huchelgais. Mae’n gwerthoedd wrth wraidd popeth a wnawn.
A oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio i ni? Trowch at ein hadran gyrfaoedd i gael gwybod mwy.
Dysgu mwy
Cyhoeddiadau
Ein Pobl
Mae’n tîm ymroddedig o staff sy’n gweithio ar draws Cymru wrth wraidd ein llwyddiant.
Strwythur y grŵp
Mae Mentrau Castell yn rhan o Grŵp Tai Wales & West, sy’n cynnwys sawl cwmni – Tai Wales & West, Mentrau Castell, Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria, Datblygiadau Enfys a Chartrefi Castell.
Ein gwerthoedd
Mae’n gwerthoedd yn rhan ganolog o bopeth a wnawn fel sefydliad, gan adlewyrchu ein diwylliant, y ffordd yr ydym yn gweithio gyda phreswylwyr a sut yr ydym yn trin ein staff.
Teg
Cytbwys, canmol pan ddylid gwneud hynny a beirniadu mewn ffordd adeiladol. Dull gweithredu cynhwysol, gan barchu urddas ac unigolrwydd pawb
Agored
Agored i newid, wedi ymrwymo i ddysgu a gwelliant parhaus. Tryloyw, gonest a dibynadwy
Cyfrifol
Proffesiynol, herio’r trefniadau presennol, ymgymryd â’r cyfrifoldeb dros faterion a defnyddio ein menter er mwyn dal ati a sicrhau eu bod yn cael eu datrys
Cefnogol
Hawdd delio â ni, hawdd troi atom a hygyrch. Croesawgar, gofalgar, yn gwrando ac yn ymateb
Effeithlon
Gwneud y defnydd gorau o adnoddau a sicrhau bod ein gweithgareddau yn cael cymaint o effaith ag y bo modd
Ein gwerthoedd
Mae’n gwerthoedd yn rhan ganolog o bopeth a wnawn fel sefydliad, gan adlewyrchu ein diwylliant, y ffordd yr ydym yn gweithio gyda phreswylwyr a sut yr ydym yn trin ein staff.