Pobl Iau

Mae’n Gwasanaeth i Bobl Iau a’n gwasanaethau Kickstart ar gyfer pobl 16-25 oed sydd mewn perygl o fod yn ddigartref neu y mae angen cymorth arnynt i feithrin sgiliau bywyd priodol.

Mae nifer o bobl wedi wynebu caledi yn eu bywyd, ond mae profiad rhai wedi eu hatal rhag cael yr hyn y byddai nifer yn ei ystyried fel magwraeth a bywyd ‘normal’. Gall hyn beri i bobl fod heb y sgiliau y mae gofyn iddynt eu cael er mwyn byw bywyd annibynnol.

Darparir cymorth 24/7 ac mae staff cymorth yn cynorthwyo pobl ifanc i fod yn annibynnol trwy osod nodau hygyrch ar eu cyfer.

Lleolir y gwasanaethau yn Abergele yng Ngogledd Cymru ac yn Aberystwyth yng Ngorllewin Cymru. Rydym yn datblygu gwasanaeth pellach yn Wrecsam.

Caiff yr holl gymorth yr ydym yn ei ddarparu ei greu mewn ffordd hyblyg, fel ei fod yn gallu newid yn barhaus, gan sicrhau bod yr unigolyn wrth wraidd popeth ac yn rheoli’r ffordd y maent yn byw eu bywyd.

Adolygir popeth yr ydym yn ei wneud yn gyson, sy’n golygu y gallwn weithredu’n gyflym i newid pethau yn syth yn ôl yr angen. Rydym yn gwybod bod pobl yn newid yn ystod eu bywyd, ac mae’n rhaid i ni wneud hynny hefyd, ac rydym yn gweld ein hunain fel cyfaill, ac mae’n fraint i ni gael rhannu eilliad ar daith bywyd rhywun.

Cysylltwch â ni ynghylch gofal a chymorth

Email: info@castellventures.wales

Call: 0300 123 2998

Gwasanaethau gofal a chymorth eraill

Gwasanaethau cartref

Byw â chymorth

Ble’r ydym yn darparu gwasanaethau i Bobl Iau

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Welsh

Click here