Gofal a Chymorth

Rydym yn gwneud gwahaniaeth i fywydau cannoedd o oedolion ar draws Cymru trwy ein gwasanaeth gofal cartref, Gofal a Chymorth Castell.

Rydym wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac yn darparu gwasanaethau gofal a chymorth i oedolion sy’n byw yng Ngogledd a Gorllewin Cymru.

Cynlluniwyd ein gwasanaethau ar gyfer oedolion y mae gofyn iddynt gael gofal a chymorth i reoli eu hanghenion personol, cymdeithasol a domestig oherwydd y ffaith eu bod yn mynd yn hŷn neu oherwydd anabledd neu salwch. Gall unigolion fanteisio ar y rhain yn breifat neu trwy’r sector cyhoeddus.

Darparir ein holl wasanaethau trwy gyfrwng model ‘prif ganolfan a lloerennau’. O ganolfan ganolog lle’r ydym eisoes yn darparu gofal a chymorth ar y safle, rydym yn ymestyn ein gwasanaethau i’r gymuned ehangach. Mae hyn yn golygu y gallwn ddarparu gofal a chymorth mewn ffordd hyblyg, gan helpu’r bobl yr ydym yn eu cynorthwyo i fod yn rhan o’r gymuned.

Trwy ddarparu gwasanaethau o ganolfan, gallwn gynnig gwasanaeth ymateb ac ymyrraeth gynnar 24/7 i bobl sy’n byw yn y gymuned, ac mae hwn yn ddull sydd wedi llwyddo i helpu pobl i fyw bywyd mor annibynnol ag y gallant ei fyw am gyfnod hwy.

Darllenwch fwy am ein holl wasanaethau gofal a chymorth isod – byw â chymorth, gwasanaethau cartref a gwasanaethau ar gyfer pobl iau.

Ble’r ydym yn darparu gofal a chymorth

Cysylltwch â ni ynghylch gofal a chymorth

E-bost: info@castellventures.wales

Ffoniwch: 0300 123 2998

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Welsh

Click here