Byw â Chymorth

Cynlluniwyd ein cynlluniau Byw â Chymorth i gynorthwyo pobl 16 oed a throsodd y gallai fod ganddynt salwch iechyd meddwl, anabledd dysgu, anabledd corfforol, Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig (ASD) neu efallai bod angen cymorth arnynt i ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol er mwyn byw bywyd annibynnol

Rydym yn ddarparwr cofrestredig gofal/cymorth cartref mewn tri chynllun byw â chymorth yng Ngogledd Cymru:

Abergele – mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Thai Wales & West

Brychdyn, Bwcle, Yr Wyddgrug – mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint a Thai Wales & West

Dyserth – mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych a Thai Wales & West

Y Rhyl – mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych a Thai Wales & West

Mwy am Fyw â Chymorth

Credwn bod gan bawb yr hawl a’r potensial i fyw bywyd llawn ac annibynnol, mae angen i ni ddeall yr hyn sydd wedi dylanwadu ar eu bywyd, yr hyn sy’n dylanwadu ar eu dyfodol, yr hyn yr hoffent ei wneud pe baent yn cael y cyfle a pha gymorth y mae ei angen arnynt i’w gyflawni.

Sut yr ydym yn gwneud hyn

Mae’n hollbwysig bod ein staff yn ffurfio perthynas wych gyda’r bobl bwysig ym mywyd yr unigolyn. Mae gwneud hyn yn caniatáu i ni ddeall yr hyn sy’n bwysig iddynt, yr hyn y maent yn ei fwynhau am y cymorth y maent yn ei gael ar hyn o bryd, yr hyn yr hoffent ei newid a’r canlyniadau yr hoffent eu cyflawni.

Ymhell cyn i wasanaeth gychwyn, byddwn yn canolbwyntio ar feithrin perthnasoedd ystyrlon gyda phobl sy’n ystyried ymgysylltu gyda chymorth. Byddwn yn cyflwyno ein hunain mewn amgylchedd lle y mae’r unigolyn yn teimlo fwyaf cyffyrddus. Trwy gael sgwrs yn hytrach na chynnal proses asesu ffurfiol, byddwn yn deall sut y mae’r unigolyn yn profi’r byd a sut yr hoffent fyw eu bywyd. Mae gwneud hyn yn caniatáu i ni feithrin perthynas ddiddan sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth a hyder, ac sy’n caniatáu i ni ddeall sut y maent yn rhyngweithio gyda’u hamgylchedd.

Pan fydd gennym ddealltwriaeth lawnach o’r sialensiau y bydd rhywun yn eu profi, byddwn yn archwilio datrysiadau er mwyn eu helpu i oresgyn eu sialensiau, megis defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft drysau awtomatig, synwyryddion diogelwch, synwyryddion galw a chymhorthion cyfathrebu) sy’n gallu eu helpu i fyw bywyd gwell a bod yn fwy annibynnol, gan barhau i fod yn ddiogel.

Byddwn yn sicrhau bod yr hyn sy’n bwysig i unigolion yn cael ei fabwysiadu o’r cychwyn, a bod pobl, gymaint ag y gallant, yn rheoli eu sefyllfa ac yn annibynnol o’r cychwyn.

Caiff yr holl gymorth a ddarparwn ei greu mewn ffordd hyblyg, felly gall newid yn barhaus, gan sicrhau bod yr unigolyn wrth wraidd popeth ac yn rheoli’r ffordd y maent yn byw eu bywyd.

Caiff popeth yr ydym yn ei wneud ei adolygu’n gyson, sy’n golygu y gallwn weithredu’n gyflym er mwyn newid pethau yn syth yn ôl yr angen. Rydym yn gwybod bod pobl yn newid mewn bywyd, ac mae’n rhaid i ninnau wneud hynny hefyd, ac rydym yn gweld ein hunain fel cyfaill, ac mae’n fraint cael rhannu eiliad ar daith bywyd rhywun.

Cysylltwch â ni ynghylch gofal a chymorth

E-bost: info@castellventures.wales

Ffoniwch: 0300 123 2998

Gwasanaethau gofal a chymorth eraill

Gwasanaethau Cartref

Gofal Ychwanegol

Pobl Iau

Ble’r ydym yn darparu gwasanaethau Byw â Chymorth

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Welsh

Click here