Newyddion

23/12/2020

Gwaith ar ddatblygiad Tai Gwarchod ar fin cael ei gwblhau

Mae datblygiad tai yn Y Trallwng bron â bod yn barod a bydd yn darparu llety ar gyfer deg o bobl, yn eu galluogi i fyw’n annibynnol ac yn nes at eu cymunedau cartref.

Yn dilyn ymarfer caffael, llwyddodd Castell Care and Support, rhan o Tai Wales & West, i ennill cytundeb pum mlynedd i ddarparu’r gefnogaeth.

Bydd y prosiect yn arwain at tua 30 o swyddi newydd yn y dref yn cefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain.

Dywedodd y Cynghorydd Myfanwy Alexander, Aelod y Cabinet ar faterion Gofal Cymdeithasol Oedolion: “Dyma gyfle gwych i ddarparu llety sy’n galluogi pobl sydd angen cymorth ychwanegol i fyw’n annibynnol a chydag urddas.”

Bydd yr unigolion yn cael y cyfle i gael mynediad at rai o’r dechnoleg ddiweddaraf ynghyd â’r cymorth a fydd ar gael ar y safle. Bydd yn eu cefnogi i ddod yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.

Mae’r prosiect yn enghraifft arall o’r bartneriaeth rhwng y Cyngor a Grŵp Tai Wales & West ac yn dilyn prosiect ExtraCare yn Y Drenewydd (Llys Glan yr Afon) a agorodd yn 2016.

Dywedodd Luke Reeves, Rheolwr Gyfarwyddwr Castell Ventures: “Rydym yn hynod o falch o fod yn rhoi gofal a chefnogaeth i’r bobl sy’n symud i mewn i Gae Glas.

“Rydym yn credu’n gryf mewn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ac rydym wrth ein bodd o fedru chwarae rôl i gefnogi pobl i fyw yn eu cartrefi eu hunain. Bydd Cae Glas yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau’r bobl sy’n symud i mewn ac fe fydd yn dod â swyddi i ardal Y Trallwng a fydd yn rhoi hwb i’r economi leol.”

Luke Reeves

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Welsh

Click here