Swyddi Gwag Presennol
Pam gweithio i ni?
Rydym yn gwmni cyffrous lle y mae’n holl dîm yn falch o’r gwahaniaeth yr ydym yn ei wneud er mwyn helpu pobl i wireddu eu huchelgais.
Fel cyflogwr sy’n talu’r Cyflog Byw Gwirwyrol, mae ein cyfraddau tâl sylfaenol yn uwch na’r Cyflog Byw Cenedlaethol. Cynigir y cyfle i’n staff ymuno â chynllun pensiwn cyfrannol ac rydym yn cynnig gwyliau blynyddol da a buddion ychwanegol megis cynllun gofal iechyd Bupa.
Manteision Allweddol
Gwyliau blynyddol hael
- 29 diwrnod o wyliau y flwyddyn (pro-rata gan gynnwys gwyliau banc)
- y dewis i brynu a gwerthu hyd at 5 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn
Gweithio hyblyg
Er mwyn eich helpu i sicrhau cydbwysedd rhwng eich gwaith a rhannau eraill o’ch bywyd, rydym yn cynnig mathau eraill o wyliau gan gynnwys ar gyfer cyfrifoldebau teuluol a gofalu, er mwyn gwneud gwaith elusennol a gwirfoddol ac amser i ffwrdd ar gyfer sefyllfaoedd annisgwyl.
Pensiwn
Rydym yn cynnig pensiwn â Chyfraniadau wedi’u Diffinio gan ddarparwr blaenllaw.
Hyfforddiant a Datblygu
Pan fyddwch yn gweithio i ni, gallwn warantu:
- gweithgarwch ymsefydlu personoledig er mwyn eich rhoi ar y trywydd iawn a rhaglen ymsefydlu gorfforaethol ryngweithiol sy’n para dau ddiwrnod
- rhaglen bwrpasol lawn o ddatblygiad personol parhaus a hyfforddiant technegol a phroffesiynol
- diwylliant hyfforddi cadarn
Cymorth ar gyfer eich iechyd a'ch lles
Bydd holl gyflogeion Mentrau Castell yn cael:
- cynllun ariannol Bupa er mwyn adennill rhywfaint o gost amrywiaeth eang o driniaethau meddygol
- budd-dal salwch galwedigaethol hael er mwyn cynorthwyo ein staff pan na fyddant yn gallu gweithio oherwydd afiechyd
- llinell gymorth 24 awr gyfrinachol ac am ddim sy’n cynnig cyngor a gwasanaeth cwnsela ynghylch iechyd a lles
- hyfforddiant iechyd a diogelwch cynhwysfawr sy’n benodol i’ch rôl