
Rydym yn darparu gofal a chymorth i bobl yn eu cartrefi eu hunain yn y gymuned yng Nghonwy a Sir Ddinbych.
Darparir y rhain dan drefniant model ‘prif ganolfan a lloerennau’, trwy ddarparu gwasanaethau mewn trefi a phentrefi sy’n agos i’n canolfannau gofal a chymorth sefydledig, megis cynlluniau gofal ychwanegol neu gynlluniau byw â chymorth.
Ar hyn o bryd, rydym yn darparu gwasanaethau cartref yn y lleoliadau canlynol:
Conwy – ardaloedd o gwmpas Abergele, o’n canolfan byw â chymorth yn y dref
Sir Ddinbych – ardaloedd o gwmpas Y Rhyl a Dyserth, lle y mae gennym ganolfannau byw â chymorth
Sir y Fflint – Brychdyn, Bwcle, Yr Wyddgrug
Gall pobl fanteisio ar y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu trwy gysylltu â ni yn uniongyrchol neu trwy’r awdurdod lleol perthnasol.
Comisiynir rhan fwyaf y gofal a chymorth yr ydym yn ei ddarparu gan awdurdodau lleol.
Caiff yr holl gymorth a ddarparwn ei greu mewn ffordd hyblyg, fel ei fod yn gallu newid yn barhaus, gan sicrhau bod yr unigolyn wrth wraidd popeth ac yn rheoli’r ffordd y maent yn byw eu bywyd.
Byddwn yn adolygu popeth a wnawn yn gyson, sy’n golygu y gallwn weithredu’n gyflym i newid pethau yn syth yn ôl yr angen. Rydym yn gwybod bod pobl yn newid mewn bywyd, ac mae’n rhaid i ni newid hefyd; rydym yn gweld ein hunain fel cyfaill, ac mae’n fraint cael rhannu eiliad ar daith bywyd rhywun.
Cysylltwch â ni ynghylch gofal a chymorth
Ebost: info@castellventures.wales
Ffoniwch: 0300 123 2998