
Rydym yn darparu gofal a chymorth 24 awr i bawb sy’n byw yn Llys Glan yr Afon, cynllun gofal ychwanegol sy’n cynnwys 48 o fflatiau yn Y Drenewydd, Powys.
Y cynllun hwn yw’r un cyntaf o’i fath ym Mhowys ac mae’n cynnig ffordd newydd o fyw bywyd annibynnol i’r rhai sydd ag angen gofal a chymorth.
Fel darparwr cymorth cartref cofrestredig ym Mhowys, mae’n tîm yn darparu gofal a chymorth 24 awr i gwsmeriaid sy’n byw yn y cynllun a’r gymuned o’i gwmpas.
Rydym yn falch o’r ffaith bod y cynllun wrth wraidd y gymuned ac mae’n tîm lles yn sicrhau ei fod yn gyfleuster cymunedol, yn hytrach na rhywle lle y mae pobl yn byw yn unig.
Caiff yr holl gymorth a ddarparwn ei greu mewn ffordd hyblyg, fel ei fod yn gallu newid yn barhaus, gan sicrhau bod yr unigolyn wrth wraidd popeth ac yn rheoli’r ffordd y maent yn byw eu bywyd.
Adolygir popeth a wnawn yn gyson, sy’n golygu y gallwn weithredu’n gyflym i newid pethau yn syth yn ôl yr angen.
Rydym yn gwybod bod pobl yn newid mewn bywyd, ac mae’n rhaid i ni newid hefyd. Rydym yn gweld ein hunain fel cyfaill, ac mae’n fraint cael rhannu eiliad ar daith bywyd rhywun.
Cysylltwch â ni ynghylch gofal a chymorth
Ffoniwch:0300 123 2998