
Rydym yn darparu gwasanaethau glanhau proffesiynol mewn chwe lleoliad ar draws Cymru.
Bydd ein timau yn gwneud gwaith glanhau dyddiol er mwyn cadw safleoedd cymunol yn daclus ac yn groesawgar i gwsmeriaid ac ymwelwyr yn ein cynlluniau gofal ychwanegol yn Yr Wyddgrug, Y Drenewydd a Threffynnon.
Lleoliadau presennol ein gwasanaethau glanhau swyddfa yw Ewlo a Chaerdydd.
Ym mhob lleoliad, bydd ein staff yn gwneud gwaith glanhau cynhwysfawr gan ddefnyddio cynhyrchion glanhau proffesiynol yn unol â’r holl ofynion iechyd a diogelwch, gan gynnwys y Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH).
Cysylltwch â ni am wasanaethau glanhau
E-bost: info@castellventures.wales
Ffoniwch: 0300 123 2998