
Rydym yn darparu gwasanaeth bwyty mewn pum cynllun gofal ychwanegol ar draws Cymru, yn Aberystwyth, Yr Wyddgrug, Prestatyn, Treffynnon a’r Drenewydd.
Mae’n Prif Ben-cogydd a’i dîm profiadol yn teimlo’n angerddol ynghylch bwyd ac yn darparu gwasanaeth proffesiynol sy’n seiliedig ar hoffterau ein cwsmeriaid.
Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu bwydlenni a newidir bob dydd, gan ddefnyddio bwyd ffres i ddarparu prydau cytbwys, maethlon ac amrywiol, ac sy’n blasu’n wych uwchlaw popeth.
Mae gennym lawer o brofiad o ddelio ag anghenion a gofynion dietegol penodol, ac rydym yn cydweithio’n agos gyda’n cwsmeriaid i sicrhau bod pawb yn cael yr un gwasanaeth o’r radd flaenaf.
Rydym wastad yn chwilio am ffyrdd o wella, arloesi a rhagori ym mhopeth a wnawn.
Mae ein bwytai wedi sicrhau safon 5 seren am hylendid bwyd.
Gallwch ddarganfod am yr holl leoliadau a manylion ein gwasanaeth arlwyo trwy’r map.
Cysylltwch â ni ynghylch Arlwyo
E-bost: info@castellventures.wales
Ffoniwch: 0300 123 2998